Taranau Mai
Taranau Mai yn treiddio mêr fy esgyrn
Taranau Mai'n tanseilio dur y plisgyn
A'r gwlan ar wifren yn y gwynt
Dyfroedd poeth yn tasgu hyd fy ngwegil
Dyfroedd coeth yn gaddug o gorun i sawdl
A'r croyw yn galed ar fy ngwâr
Mellt a glaw yn gorwynt drwy y brigiau
Ysgwyd a braw tra ffrwydraf yn
Nid noson lawen mohono
Elfennau oer yn crynu fy nghydwybod
Gwaed a phoer yn cronni yn mynwes fy ngwddwg
A'r cwmwl yn tanio uwchben
Compositor: Gruff RhysPublicado em 2019 (10/Dez)ECAD verificado fonograma #21220730 em 15/Mai/2024Ouça estações relacionadas a Gruff Rhys no Vagalume.FM