Adeiladau mileniwm Mewn ffug alminiwm Goruwch-ystafelloedd Am hanner miliwn o bunnoedd Tyfwn adenydd Tra'n yfed Ymennydd Mewn tafarndai thema A dim golwg o'r Wyddfa Dw i'n byw a bod Dw i'n byw a bod Arnofio yn y bae Yn y baw a'r dod Coffi ewynnol Cyflog derbyniol Argae uffernol Sgidiau ffasiynol Saeri Rhyddion Yn rhedeg byrddion Cyhoeddus, anweddus Sefyllfa druenus
Dw i'n byw a bod Dw i'n byw a bod Arnofio yn y bae Yn y baw a'r dod Dw i'n rhan o'r atal genhedlaeth Ymfudwn o amaeth O gefn gwlad i Gaerffosiaeth O gefn gwlad i Gaerffosiaeth Dw i'n byw a bod, Dw i'n byw a bod Arnofio yn y bae Yn y baw a'r dod
Compositor: Desconhecido no ECADIntérprete: Gruffudd Maredudd Bowen Rhys (Gruff Rhys) (PPL - I)Publicado em 2004ECAD verificado fonograma #3010512 em 23/Abr/2024